Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-23-13 – Papur 1

GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR

 

CLA311 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) 2013

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau (Cymru) 2007 drwy ychwanegu swyddogaethau mewn perthynas â chymeradwyo neu benderfynu ar gynigion trefniadaeth ysgolion o dan adrannau 51 neu 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.  Effaith y diwygiad yw rhoi disgresiwn i awdurdod lleol benderfynu ai cyfrifoldeb y weithrediaeth yw’r swyddogaethau dan sylw.

 

CLA312 - Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r disgrifiad o’r dosbarthiadau o breswylfeydd yn y diffiniad o ‘breswylfa’ yn adran 6(1) o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 drwy ychwanegu cartrefi plant fel dosbarth o breswylfa.

 

CLA313 - Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013.

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau y Rheoliadau 2010 cyfatebol. Maent yn parhau i weithredu gofynion yr UE sy’n ymwneud â’r lefelau uchaf o asid erwsig a halogion penodol mewn deunyddiau bwyd, yn ogystal â gweinyddu a gorfodi’r gofynion hynny.

 

CLA314 - Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) (Diwygio) (Cymru) 2013

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o gyrff a benodir i awdurdodi digwyddiadau oddi ar y ffordd yng Nghymru. Maent hefyd yn darparu ar gyfer gosod ffioedd am geisiadau gan y cyrff awdurdodi, fel bod y ffioedd yn cael eu cyhoeddi a’u bod yn rhesymol.

 

CLA315 - Rheoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) (Diwygio) (Cymru) 2013

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn penodi’r Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited (yn lle’r Royal Automobile Club) fel y corff awdurdodi ar gyfer rhai digwyddiadau (heblaw am ras neu dreial o gyflymder) a gynhelir ar ffyrdd cyhoeddus.

 

Maent hefyd yn darparu bod y Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited yn gallu penderfynu ar ei ffioedd ei hunan, ar yr amod bod y ffioedd yn cael eu cyhoeddi a’u bod yn rhesymol.